sut ydy bacteria yn atgenhedlu?
ymraniad deuol
beth yw’r 3 siap gellir dosbarthu bacteria iddynt?
-cocws (siap sffer)
-bacilws (siap rhoden)
-sbirilwm (siap sbiral)
pa siap sydd gan bacteria cocws?
sffer
pa siap sydd gan bacteria bacilws?
rhoden
pa siap sydd gan bacteria sbirilwm?
sbiral
pa adweithyddion defnyddir mewn adwaith staen Gram?
pa lliw yw bacteria gram positif (gram +ve)?
porffor
cofio - P(positif) a P(porffor)
pa lliw yw bacteria gram negatif (gram -ve)?
coch
disgrifiwch sut mae staen Gram yn effeithio bacteria gram POSITIF
-bacteria gram +ve gyda gellfuriau sy’n cynnwys haen peptidoglycan fwy drwchus
-staen fioled crisial/iodin yn bondio gyda’r haen drwchus peptidoglycan hyd yn oed ar ol cael ei olchi gan yr alcohol
-felly’n ymddangos yn porffor o dan microsgop
disgrifiwch sut mae staen Gram yn effeithio bacteria gram NEGATIF
-bacteria gram -ve gyda haen peptidoglycan denau
-gyda haen allanol ychwanegol lypopolysacarid
-staen fioled grisial/iodin yn staenio’r haen allanol LPS
-alcohol yn hydoddi’r bilen lypopolysacarid allanol gan waredu’r staeniau
-datgelu’r haen peptidoglycan sy’n cael ei staenio’n goch gan y safranin
pa amodau sydd angen am dyfiant micro-organebau?
-tymheredd addas
-pH addas
-maetholion
-cyflenwad dwr
pa maetholion sydd angen am dyfiant micro-organebau?
Carbon a Nitrogen
pam oes angen carbon am dyfiant micro-organebau?
resbiradaeth
pam oes angen nitrogen am dyfiant micro-organebau?
synthesis asidau amino/protein/DNA/RNA
disgrifiwch aerobau anorfod
micro-organebau sydd angen ocsigen am fetabolaeth felly dim ond ym mhresenoldeb ocsigen mae’n tyfu
disgrifiwch anaerobau anorfod
micro-organebau sydd ond yn gallu metaboleiddio yn absenoldeb ocsigen
disgrifiwch anaerobau amryddawn
micro-organebau sy’n gallu dyfu yn absenoldeb ocsigen, ond sy’n tyfu’n well mewn presenoldeb ocsigen
beth yw techneg aseptig?
gwrthdrefnu rydyn ni’n eu defnyddio i atal hylogiad
beth ydy technegau aseptig yn atal?
-atal y microbau sy’n cael ei meithrin rhag halogi’r amgylchedd
-atal microbau o’r amgylchedd rhag halogi’r meithriniadau
pa dau dull gellir defnyddio i ddiheintio offer?
-ffwrn aerglos ar 121 gradd C am 15 munud neu fflamio cyfarpar trwy roi yn fflam glas y llosgydd bynsen
-arbelydriad am bethau plastig
beth ydych yn gallu wneud i atal meithriniad rhag cael eu halogi gan yr amgylchedd?
-diheintio arwyneb gwaith cyn dechrau
-gogwyddo caeadau dysgl petri
-fflamio dolen inociwleiddio
-selio caead dysgl petri gyda dau ddarn o dap gludiog
-gweithio yn agos i fflam glas llosgydd bynsen sy’n creu cerrynt darfudiad
beth ydych yn gallu wneud i atal bacteria o’r meithriniad rhag halogi’r amgylchedd?
-fflamio ddolen frechu ar ol trosglwyddo bacteria nes eu fod yn goleuo’n coch
-fflamio gwddf potel meithriniad ar ol eu hagor
-paid a rhoi caead potel meithriniad i lawr ar yr arwyneb gwaith
pam dylech osgoi rhoi tap yr holl ffordd o gwmpas y dysgl petri?
byddai’n atal yr O2 rhag cyrraedd y bacteria felly bacteria aerobig methu dyfu
beth yw’r dau ffordd o fesur twf bacteria yn uniongyrchol?
-cyfrif hyfyw
-cyfrif cyfanswm