Cyfnod
Yr amser mae’r gwrthrych yn ei gymryd i gwblhau un cylchdro
Amledd
Nifer cylchdroadau bob eiliad
Radian
Uned i fesur blgau sy’n hafal i tua 57.3°. Mae’n gywerth a’r ongl a gynheir yng nghanol cylch gan arc a’r un hyd a’r radiws
Cyflymder Onglaidd
Pan fydd gwrthrych yn teithio mewn cylch ar fuanedd cyson, mae’r cyflymder onglaidd yn hafal i’r ongl mae’r radiws yn troi drwyddi mewn amser Δt wedi rhannu a t
MHS
Mae MHS yn digwydd pan fydd cylfymiad gwrthrych mewn cyfrannedd union a’i bellter o bwynt sefydlog ac wedi’i gyfeirio tuag at y pwynt sefydlog
Osgled
Gwerth mwyaf dadleoliad y gwrthrych o’i safle cydbwysedd
Gwedd
Lleoliad o pwynt penodol o fewn ton i cymharu a pwynt gwahanol
Osgiliadu rhydd/naturiol
Pan fydd system osgiliadu yn cael ei dadleoli a’i rhyddhau
Gwanychiad
Lleihad osgled osgiliadu rhydd oherwydd grymoedd gwrthiant
Gwanychiad critigol
Gwanychiad lleiaf sy’n atal y system rhag osgiliadu o gwbl ar ol cael ei dadleoli a’i rhyddhau
Osgiliadau grofod
Pan fydd grym gyrru sinwsoidaidd amrywiol yn gweithredu ar system osgiliadu, gan achosi i’r system osgiliadu gydag amledd y grym gosod
Cyseiniant (Resonance)
mewn dirgryniadau gorfod, os yw amledd y grym gosod yn hafal i amledd naturiol y system, bydd osgled yr osgiliadau’n fawr iawn.
Nwy Delfrydol
Nwy sy’n ufuddhau i’r hafaliad pV=nRT, lle n yw nifer molau, T yw tymheredd kelvin ac R w cysonyn molar nwy
Mol
uned SI ‘Swm sylwedd’. Mae mol yn cynnwys yr un nifer o ronynnau ag sydd o atomau mewn 12g o garbon-12
Cysonyn Avogadro
Nifer y gronynnau mewn mol (6.02x10^23)
Egni mewnol system
Cyfanswm yr egni potensial ac egni cinetig gronynnau mewn system
Gwres
Llif egni o ardal tymheredd uchel i ardal tymheredd isel oherwydd y gwahaniaeth tymheredd.
Gwaith
Egni sy’n symud i mewn neu allan o’r system fel gwres
Deddf Gyntaf Thermodynameg
Cynydd yn egni mewnol system yw ΔU = Q-W lle Q yw’r gwres sy’n mynd i mewn ac W yw’r gwaith a wneir gan y system.
Cynhwysedd Gwres Sbesifig
Y gwres sydd ei angen, i bob cilogram, i bob gradd Celcius neu Kelvin, i godi tymheredd sylwedd
Ymbelydredd alffa
Gronynnau cyflym, niwclysau heliwm, wedi’u hallyrru o rai niwclysau ymbelydrol
Ymbelydredd beta
Electronau a buaneddau fymryn yn is na buanedd golau, wedi’u hallyrru o rai niwclysau ymbelydrol
Pelydriad gama
Ffotonau egni uchel (amledd uchel, tonfedd fer), wedi’u hallyrru o niwclysau ymbelydrol
Nodiant A X
Z
X yw symbol cemegol elfen, A yw’r rhif mas (nifer y protonnau wedi’i adio at nifer y niwtronau) a Z yw’r rhif atomig (nifer y protonau)