Cynhwysydd
Par o blatiau dargludol paralel, wedi gwahani gan ynysydd. Pan fydd g.p ar ei draws, maen nhw’n derbyn gwefrau hafal a dirgroes
Cynhwysiant (C)
Cynhwysiant = gwefr ar naill blat (Q) / gp rhwng platiau (V)
Deuelectryn
Ynysydd rhwng platiau cynhwysydd sydd hefyd yn cynyddu’r cynhwysiant o gymharu a gofod rhydd
Deddf disgyrchiant Newton
Mae’r grym disgyrchiant rhwng dau ronyn mewn cyfrannedd union a lluoswm ei masau, m1 ac m2 ac mewn cyfrannedd gwrthdro a sgwar ei gwahaniad r^2, lle G yw cysonyn digyrchol. F=Gm1m2/ r^2
Deddf Coulomb
Mae’r grym electrostatig, F, rhwng dau gorf bach mewn cyfrannedd union a lluoswm eu gwefrau Q1 a Q2 ac mewn cyfrannedd gwrthdro a sgwar ei gwahaniad r^2, F = Q1Q2/4πε0r^2
Cryfder maes trydanol (E)
Y grym i bob uned gwefr sy’n cael ei weithredu ar wefr fach bositif a roddir yn y maes
Cryfder maes disgyrchaint (g)
Y grym i bob une mas sy’n cael ei weithredu ar fas a roddir yn y maes
Potensial trydanol (VE)
Pwynt penodol yw’r gwaith a wneir i bob uned gwefr wrth dod a gwefr bositif o anfeidredd i’r pwynt hwnnw
Potensial disgrychaint (Vg)
Pwnt penodol yw’r gwaith a wneir i bob uned mas wrth dod a mas o anfeidredd i’r pwynt hwnnw
Deddf 1 M Kepler
Mae pob planed yn teithio mewn elips a’r Haul yn un ffocws
Deddf 2 M Kepler
Mae’r llinell sy’n cysylltu planed a chanol yr haul yn sgubo arwynebedd cyson mewn amser cyson
Deddf 3 M Kepler
Mae T^2 mewn cyfranedd union a r^3 lle r yw hanner echel fwyaf elips
Mater tywyll
Mater na allwn ei weld na’i synhwyro o unhryw fath o belydriad, ond gallwn gymryd ei fod yn bodoli o’i effeithiau disgyrchiol
Cyflymder rhwiddiol seren
Hwn yw cydran cyflymder seren yng nghyfeiriad y llinell sy’n cysylltu’r seren ag arsylwr ar y Ddaear
Cyflymder rhwiddiol galaethol
Hwn yw cydran gymedrig cyflymder galaeth yng nghyfeiriad y llinell sy’n cysylltu’r alaeth ag arsylwr ar y Ddaear
Maes magnetig B (Dwysedd fflwcs magnetig)
Mesur fector yw hwn. Mae wedi’i gyfeirio yr un ffordd a phegwm Gogledd magnet sy’n rhydd i droelli. Ei faint yw B=F/IL , F- grym, L-hyd, I-cerrynt, wedi gosod yn perp i gyfeiriad y maes
Foltedd Hall
Pan fydd dargludydd yn cludo cerrynt ,I, ar ongl sgwar i faes magentig, B, bydd foltedd Hall yn ymddangos ar draws y dargludydd ar ongl sgwar i gyfeiriuadau B ac I
Fflwcs magnetig (Φ)
Os yw coil un troad yn amgylchu arwynebedd A, a maes magenetig B ar ongl θi normal plan y coil mae’r fflwcs magnetig drw’r coil yn Φ =AB cos θ
Cysylltedd Fflwcs, NΦ
Os oes gan y coil uchod N troad, mae’r cysylltedd fflwcs yn NΦ
Deddf Faradau
Pan fydd cysylltedd fflwcs cylched drydanol yn newid, mae gem yn caei ei anwytho yn y gylched a’i faint yn hafal i gyfradd newid y cysylltedd fflwcs, E=-Δ(NΦ) / Δt
Deddf Lenz
Mae cyfeiriad unrhyw gerrynt o ganlyniad i gem wedi’i anywtho’n gwrthwynebu’r newid mewn cysylltedd fflwcs sy’n achosi’r cerrynt