Ymagor
agor yr anther i ryddhau gronynnau paill
Peilliad
trosglwyddo gronynnau paill o’r anther i’r stigma aeddfed mewn planhigyn o’r un rhywogaeth
Protandredd
brigerau blodyn yn aeddfedu cn y stigma
Ffrwythloniad
asio gametau gwryw a benyw i gynhyrchu sygot
Ffrwyth
adeiledd sy’n datblygu o fur yr ofari, ac sy’n cynnwys un neu fwy o hadau
Hedyn
adeiledd sy’n datblygu o ofwl ffrwythlon ac sy’n cynnwys embryo a storfa fwyd wedi’u cau mewn hadgroen
Cwsg/ Ynghwsg
mae’r term hwn yn disgrifio hedyn pan mae ei dwf actif wedi’i atal. Cyn i eginiad ddigwydd rhaid bodloni amodau penodol