Ecoleg
Astudio pethau byw a’r ffordd maen’t yn rhyngweithio a’i gilydd a’u hamgylchedd
Ecosystemau
Cymuned nodweddiadol o rywogaethau cyd-ddibynnol sy’n rhyngweithio a chydrannau anfiotig eu cynefin
Poblogaeth
Pob aelod o un rhywogaeth mewn ardal y gallant fridio a’i gilydd
Cymuned
Pob aelod o un rhywogaeth mewn ardal
Cynefin
Y man mewn ecosystem lle mae organeb yn byw
Cilfach
Rol organeb mewn ecosystem - rol bwydo fel arfer
Biotig
Yr holl gydrannau byw ac organig mewn ecosystem
Anfiotig
Yr holl rhannau o ecosystem nad ydynt yn fyw
Poblogaethau’n cynyddu os yw:
Cyfradd genedigaeth a mewnfudo yn fwy na cyfradd marwolaethau ac allfudo
Poblogaethau yn lleihau os yw:
Cyfradd marwolaeth ac allfudo yn fwy na cyfradd genediaethau a mewnfudo
Beth sy’n cael ei cyflwyno ar Cromlinau Twf
Poblogaethau sy’n coloneiddio amgylcheddau newydd yn mynd trwy gyfres nodweddiol o gamau
Camau’r cromlin twf
Cyfnod Oedi
Twf poblogaeth isel wrth i’r boblogaeth
sefydlu ei hun am y tro cyntaf
e.e wrth i ficro-organebau syntheseisio ensymau i hydrolysu eu ffynhonnell fwyd
Cyfnod Esbonyddol
Poblogaeth yn tyfu’n gyflym. Dim ffactorau cyfyngol ar dwf
Cyfnod Di-gyfnewid
Twf poblogaeth yn stopio oherwydd ffactorau cyfyngol. Poblogaeth yn aros yn sefydlog gan anwadalu o gwmpas pwynt gosod
Cyfnod Marwolaeth
Ffactorau cyfyngol (e.e maetholion, gwastraff gwenwynig yn cronni) yn achosi i’r boblogaeth leihau
Graddfa Logarithmig
Cynhwysedd Cludo
Nifer o organebau o fewn rhanbarth y gall yr amgylchedd eu cefnogi’n gynialadwy
Graddfa Logarithmig mewn anifeiliaid
Ffactor dwysedd-dibynnol
Ffactor sy’n cael mwy o effaith wrth i faint y boblogaeth gynyddu
e.e clefydau, gwastraff gwenwynnig yn cronni
Ffactor dwysedd-annibynnol
Ffactor sy’n cael yr un effaith pa bynnag maint y boblogaeth
e.e llifogydd, rhewi, tannau
Beth ydy organebau’n cystadlu amdano
Anifeiliaid:
- Bwyd
- Cysgod
- Lle
- Phartneriaid Atgenhedlu
Organebau arall:
- Golau
- Lle
- Dwr
- Maetholion
Diffiniad Cystadleuaeth Fewnrhywogaethol
Cystadleuaeth rhwng unigolion o’r un rhywogaeth
Diffiniad Cystadleuaeth Ryngrywogaethol
Cystadleuaeth rhwng aelodau o rywogaethau gwahanol